Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys darpariaeth, pan fo darparwr y Cynllun yn darparu i landlord unrhyw wybodaeth sy’n esbonio gweithrediad adrannau 45 i 47 o’r Ddeddf, ac Atodlen 5 iddi (h.y. cynlluniau blaendal), fod rhaid rhannu’r wybodaeth honno gyda deiliad y contract. Mae’r Rheoliadau, o ganlyniad, yn egluro pan fo’r landlord yn cael unrhyw wybodaeth berthnasol fod rhaid rhannu’r wybodaeth honno gyda deiliad y contract. Bydd angen i’r landlord arfer rhywfaint o ddisgresiwn o ran y bydd ond yn ofynnol iddo rannu gwybodaeth sy’n helpu i esbonio darpariaethau perthnasol y Ddeddf.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol, ar hyn o bryd, i osod dyletswydd ar weinyddwyr cynlluniau i ddarparu gwybodaeth benodol, oherwydd mae landlord ond o dan rwymedigaeth i drosglwyddo unrhyw wybodaeth berthnasol a ddarperir gan weinyddwr y cynllun. Bydd gweithrediad y darpariaethau hyn yn ymarferol yn parhau i gael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru.

Pwynt Craffu Technegol 2:

Fel y mae’r Pwyllgor wedi nodi, mae’r Rheoliadau yn defnyddio’r geiriau “talu” ac “ad-dalu” er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod y Rheoliadau a’r Ddeddf (gan gynnwys Nodiadau Esboniadol y Ddeddf) yn cydnabod y gall blaendal gael ei dalu gan berson nad yw’n ddeiliad y contract. Os talwyd y blaendal gwreiddiol gan ddeiliad y contract, caiff ei ad-dalu iddo, a phan fo’r taliad wedi ei wneud gan berson ar ran deiliad y contract, caiff y taliad hwnnw ei dalu i ddeiliad y contract.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried bod y ddarpariaeth yn aneglur neu fod angen gwahaniaethu ymhellach rhwng y sefyllfaoedd hynny. Bydd Llywodraeth Cymru yn cysylltu â gweinyddwyr y cynllun yng Nghymru i ganfod a yw’r gwahaniaeth hwn hefyd wedi ei adlewyrchu yn eu canllawiau.